668 Wedi’r Cymundeb O Dduw ein galwad, clywsom dy addewid, yn ein calonnau plennaist wraidd dy bwrpas; ti a'n harweiniaist drwy yr oriau duaf, O Dduw ein galwad. Dduw ein hymgynnull, gydol y canrifoedd maethaist ni wrth dy fwrdd â’th gariad graslon, dŵr, gwin a bara, rhoddion drud dy aberth, Dduw ein hymgynnull. O Dduw ein moliant, mawl a chân ac offrwm, pob un â'i iaith ac idiom ei ddiwylliant, yn ein bywydau cynnau fflam sancteiddrwydd, O Dduw ein moliant. Dduw ein gwasgaru, yn ein byd drallod, danfon dy Ysbryd, lleda ein gorwelion; yn un cymundeb ffurfia ni o'r newydd, Dduw ein gwasgaru. Meurig Llwyd